Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am dynnu sylw at y ffaith y gallai’r Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru gael ei ddrafftio’n fwy eglur er mwyn helpu Gweinidogion Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddeall ystyron “dylai” a “rhaid” yn y Cod.

 

Mae’r Cod Ymarfer yn egluro o dan ba amgylchiadau y gellir cynnig neu wneud cytundeb neu orchymyn rheoli rhywogaethau. Mae’r defnydd o ddarpariaethau o’r fath wedi’i gyfyngu i amgylchiadau penodol iawn ac felly mae’r Cod wedi’i anelu’n bennaf at Gyfoeth Naturiol Cymru, fel un o’r ddau awdurdod amgylcheddol dynodedig. Gweinidogion Cymru yw’r llall. Lluniwyd y Cod mewn cydweithrediad agos â Chyfoeth Naturiol Cymru a’i gyflwyno i’w Fwrdd Busnes Rheoleiddio a’i Fwrdd Bioamrywiaeth er gwybodaeth cyn ei gyhoeddi.  

 

Er bod “rhaid” yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i gyfeirio at ofynion statudol penodol yn y Cod rydym yn cydnabod bod anghysondebau posibl rhwng y defnydd o’r geiriau “rhaid” a “dylai”, mewn rhai achosion eraill.

 

Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru, felly, i egluro sut y mae’r geiriau “rhaid” a “dylai” i’w deall. Byddant yn egluro fod y Cod, wrth ddefnyddio “rhaid”, yn mynegi gofyniad cyfreithiol penodol neu’n cael ei ystyried i fod o’r flaenoriaeth uchaf er mwyn cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru ar rywogaethau goresgynnol. Mae’r gair “dylai” yn mynegi safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y dylid cynnal gweithrediadau i gydymffurfio â’r gofynion er mwyn sicrhau canlyniad boddhaol, cymesur a chyson wrth gyflawni darpariaethau rheoli rhywogaethau. Mae’r Cod i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd nodyn yn egluro’r defnydd o’r geiriau “rhaid” a “dylai” i’r rheini sy’n ddarostyngedig i gytundeb neu orchymyn rheoli rhywogaethau hefyd yn cael ei roi ar y wefan.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymhwysiad y Cod hwn fel rhan o’r broses flynyddol o adrodd ar nifer y cytundebau a’r gorchmynion rheoli rhywogaethau a ddyroddir bob blwyddyn. Yn y tymor canolig, byddwn yn adolygu ac yn diwygio’r Cod yng ngoleuni sylwadau’r Pwyllgor ac unrhyw adborth a gawn oddi wrth unrhyw bartïon a effeithiwyd.